Wrecsam, Cymru: Ail-Feddiannu’r Caeau – Tuag at byd heb garchardai
O’r 28ain Awst i’r 2il o Fedi 2015, fe atynodd Gwersyll Ryngwladol Ail-Feddianwn y Caeau dros 130 o bobl i Wrecsam, i wrthsefyll ‘Project Carchar Gogledd Cymru,’ ac adeiladu yr ail garchar mwyaf yn Ewrop. Cynhalwyd y digwyddiad yng Ngwersyll Amddiffyn y Gymuned Borras, gwersyll a sefydlwyd i wrthwynebu ffracio yn yr ardal, yr oedd yr ymgynulliad yma o bobl yn ceisio i gysylltu brwydrau tir ag ymwrthedd i’r cymhleth diwydianol carchar (the prison industrial conplex) (1) a mecanweithiau parhaus o drais gan y wladwriaeth a difeddiant.
Cysylltu brwydrau
O ddydd Sadwrn i ddydd Llun, yr oedd rhaglen cynhwysfawr o weithdai, trafodaethau a gweithgareddau ymarferol. Fe wnaeth pobl wneud cysylltiadau rhwng brwydrau yn ymwneud a’r system carchardai, sofraniaeth bwyd, ffiniau, ac agweddau eraill ar y byd ar ol cau y tiroedd comin. Fe wnaeth nifer o’r gweithdai archwilio i greulondeb y system carchar, cyflwyno’r cymleth diwydiant carchardai, y brwydrau parhaus dros garcharorion IPP, carchardai i’r sawl nad ynt yn fodau dynol a sut y mae carchardai yn ymwneud â brwydrau rhywedd a cwiar, yn ogystal a hyn yn ystod y penwythnos fe ddatblygwyd cynllun permaddiwylliant ar gyfer y gwersyll a dechreuodd pobl gweithio ar yr ardd berlysiau, system biochar a phaneli solar ar gyfer y safle.
Byth ar pen eich hunain, Byth yn angof
Drwy gydol y gwersyll fe ddigwyddodd nifer o weithredodd. Yn ystod y nos, cymerodd pobl systemau sain, uwchseinyddion, ac offerynnau gwneud sŵn eraill i garchardai lleol er mwyn dangos carcharorion nad ydynt yn cael eu hanghofio ac nid un ar pen eu hunain. Fe ymwelwyd a HMP Stoke Heath, HMP Drake Hall a HMP Altcourse. Ymwelwyd a rhain i gyd, gyda llawer o garcharorion yn gweiddi yn ôl a yn curo eu drysau. Yr oedd pobl yn bloeddio “If you hate the screws, clap your hands” o dan lleuad llawn.
Fel rhan o Wythnos Ryngwladol Unoliaeth gyda Carcharorion Anarchaidd, fe wnaeth plant yn y gwersyll wneud baner ar gyfer garcharor anarchaidd o Wledydd Prydain, Emma Sheppard. Cafodd llythyrau eu hysgrifennu a straeon carcharorion eu rhannu. Cafodd baneri hefyd eu gwneud ar gyfer gymrodyr ar dag ac ar amodau mechnïaeth gormesol nad oedd yn gallu cyrraedd yr ymgynulliad o ganlyniad i hyn.
Yn y Strydoedd
Roedd yna hefyd gweithredoedd ar y stryd fawr, gyda pobl yn dosbarthu taflenni am y carchar yn Wrecsam a sut y gallant gymryd rhan yn y frwydyr yn ei herbyn. Ar ddydd Llun yr oedd protest yn erbyn Tirlunio P & A. Nhw yw tirlunwyr y carchar ac maent wedi darparu nifer o ffensys a deunyddiau i’r carchar. Fe wnaeth pobl ymweld a’i canolfan arddio cyhoeddus. Ymwelwyd a hysbyswyd cwsmeriaid am eu rôl yn ehangu carchar.
Blocâd drwy’r dydd ar y Carchar
Ar ddydd Mawrth y 1af o Fedi fe wnaeth tua 20 o bobl rwystro tair porth mynediad i’r safle adeiladu Mega-Garchar Wrecsam. Yr oedd y weithred syml hon yn hawdd i gydlynu, a gyda heddlu a staff y safle yn ddryslyd a heb baratoi, cafwyd effaith fawr heb angen llawer o ymdrech. Cafodd ciw o dryciau eu hatal rhag mynd i mewn ac allan o’r safle, gan gynnwys cyflenwad sment enfawr oedd yn rhaid cael ei droi yn ol cyn iddo ddifetha. Yr oedd Simon Caron, Cyfarwyddwr Prosiect Lend Lease, yn ymbil protestwyr i adael wrth ddweud, “We’ve been reasonable letting you protest, please just allow this one to get through”. Ni wnaeth unrhyw un symyd fe oedd cerbydau cyflenwi deunyddiau yn methu mynd i mewn.
Targedu cyflenwyr yn rhanbarthol
Wrth i gyfranogwyr y gwersyll rwydweithio a dod i adnabod eu gilydd, ffurfwyd grwpiau rhanbarthol i weithredu yn erbyn targedau yn eu hardaloedd eu hunain. Ymwelodd un grŵp â swyddfeydd Swydd Gaerloyw o Precast erections Cyf, y cwmni sy’n cyflenwi blociau concrid a ddefnyddir i adeiladu’r carchar. Mae mwy o weithredoedd yn cael eu cynllunio. Cysylltwch â’ch grŵp lleol i gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan yn Ngweithredu Cymunedol yn erbyn Ehangiad Carchar.
Protest Unoliaeth yn y Llys
Ar ddydd Mercher yr 2il, fe aeth pobl o AilFeddianu’r Caeau i gefnogi dynes leol, Vanda Gillett a oedd wedi ei cyhuddo o ymosod yn ystod Blocâd Cymunedol Barton Moss. Yn dilyn rheithfarn euog, fe ffrwydrodd gwylltineb yn ei hamddiffyniad. Cafodd y llys ei feddiannu a yr oedd “ysgarmes” gyda’r heddlu y tu allan i’r llys. Cafodd pedwar o fobl eu harestio a symudodd pobl i ddangos unoliaeth yn y gorsafoedd heddlu lle oedd yr sawl a arrestwyd yn cael eu cadw.
Oherwydd yr arestiadau a bod blaenoriaeth i gefnogaeth tu allan gorsafoedd Heddlu, cafodd gweithredoedd pellach ym Manceinion wedi eu gohirio, fodd bynag, mae pobl leol sydd wedi eu cymell gan y frwydr gwrth-garchar yn awyddus i barhau i dargedu cwmnïau lleol ac oedi adeiladu y mega-garchar.
Ail-feddiannu’r Caeau, Adfer ein Bywydau
Mae adennill y Caeau yn gyster o fobl a phrosiectau ar y cyd sydd yn barod i fynd yn ôl at y tir a ail-feddianu rheolaeth dros gynhyrchu bwyd. Rydym yn benderfynol o greu dewisiadau amgen i gyfalafiaeth trwy dulliau cyd-weithredol, ymreolaethol, yn cynhyrchu dros anghenion a mentrau ar raddfa fach, gan roi theori ar waith a chysylltu gweithredu ymarferol lleol gyda brwydrau gwleidyddol byd-eang.
Mae’r gwersyll yn un rhan o’n stori. Nid ydym yn ‘ymgyrch’ na ‘chlymblaid’. Yr ydym yn bobl, prosiectau a brwydrau amrywiol yn cydgyfeirio ac ddargyfeirio ar hyd a lled Ewrop. Mae sawl ffordd y mae economeg cyfalafol yn dod i dra-arglwyddiaethu ar y tir (boed hynny drwy adeiladu carchardai, dryllio am nwy neu ecsbloetio amaethyddiaeth diwydiannol) yn berthnasol ac yn cysylltu bob un ohonom. Er y gall crynoadau a gwersylloedd gweithredu fod yn gyfyngedig yn wleidyddol, nid ydynt yn bopeth nac yn ddiwedd ar ein holl waith. Maent yn fannau ymgynnull ac yn gyfle i gymrodion i gyfarfod ac adfyfyrio’n feirniadol ar sut y brwydrau hyn yn llunio ein bywydau.
Daeth yr ymgynulliad yn fyw trwy waith grŵp anhygoel o bobl sy’n gweithio ar y cyd ac yn llorweddol. Yr oedd nifer o cyn-garcharorio a’r sawl sydd wedi cefnogi anwyliaid yn y carchar yn bressenol a fe wnaeth y profiad eu cyffwrdd. Yr oedd yr angerdd a’r casineb tuagat y system garchar yn bresennol iawn ac yn weladwy iawn. Hefyd yr oedd yr awch am rywbeth mwy, ar gyfer tyfu bwyd, adennill tir a byw yn wahanol.
Byddwn yn parhau â’n gwaith i adennill ein bywydau gan y wladwriaeth, gan ein system economaidd gyfalafol a chymdeithas carchar gormesol. Hyd nes bod OLL YN RHYDD!
– Ail-Feddiannu’r Caeau, Medi 2015
(1) Diffinir yma fel buddiannau sy’n gorgyffwrdd y llywodraeth a diwydiant sy’n defnyddio gwyliadwriaeth, plismona a carchar fel atebion i broblemau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol.